YR ARLOESWYR
Papur Pawb oedd y papur bro cyntaf i fod ar werth i’r cyhoedd yng Nghymru.
Fe gyhoeddwyd Y Dinesydd, yng Nghaerdydd, ychydig yn gynharach, ond papur a roddwyd am ddim oedd hwnnw ar y pryd.
Sefydlwyd Papur Pawb yn 1974 i ddarparu newyddion lleol i gymunedau Ceulanamaesmawr, Llangynfelyn ac Ysguborycoed.
Y golygyddion cyntaf oedd Gwilym ac Eleri Huws. Gwilym gafodd y syniad yn wreiddiol o gyhoeddi papur lleol. Trafododd y syniad gyda Robat Gruffudd, sylfaenydd Gwasg y Lolfa, a oedd eisoes wedi rhoi Tal-y-bont ar y map gyda’i rhaglen gyhoeddi fentrus ac arloesol. Ymateb brwdfrydig i’r cynllun a ddaeth o gyfeiriad Robat a chynhaliwyd cyfarfod gan wahodd Hefin Llwyd a Siôn Myrddin atynt i gryfhau’r tîm o ran nifer ac o ran syniadau. Wedi dadlau brwd ynghylch yr enw, ymddangosodd y rhifyn cyntaf o Bapur Pawb ym mis Medi 1974. [Ceir hanes llawn sefydlu Papur Pawb yn y gyfrol Ein Canrif]
Y RHIFYN CYNTAF
Rhoddwyd gair o esboniad yn y rhifyn cyntaf am swyddogaeth Papur Pawb, sef
‘anelu i adlewyrchu pob agwedd ar fywyd cymdeithasol a diwylliannol y cylch mewn gair ac mewn llun. Bwriadwn i bawb feddwl am y papur fel gwasanaeth sy’n perthyn i’r gymdeithas gyfan, megis neuadd bentref neu ysgol, ac nid rhywbeth sy’n perthyn i grŵp bychan o fewn yr ardal yn unig.’
Gosodwyd patrwm a naws y papur yn y rhifyn cyntaf – stori flaen yn tynnu sylw at ddigwyddiad neu fater llosg lleol; dyddiadur y mis; tudalen Pobl a Phethau yn cofnodi genedigaethau, priodasau, pen-blwyddi arbennig a llwyddiannau unigolion; adroddiadau am weithgareddau sefydliadau a chymdeithasau lleol; colofnau rheolaidd; hanes lleol a chwaraeon ac, yn goron ar y cyfan, digon o luniau.
SEFYDLU CYMDEITHAS
Er mai criw bychan iawn oedd y tu cefn i sefydlu’r papur, ni fyddai wedi goroesi mwy nag ychydig fisoedd oni bai am gymorth parod nifer fawr o bobl – colofnwyr, gohebwyr ardal, teipyddion, plygwyr a dosbarthwyr – a chefnogaeth siopau a busnesau lleol. Er mwyn rhoi’r fenter ar draed cadarnach, sefydlwyd Cymdeithas Papur Pawb yn 1980.
Wedi i Gwilym ac Eleri ac yna Gwyn a Fal Jenkins ysgwyddo’r baich golygyddol am sawl blwyddyn, penderfynwyd ddiwedd yr 1980au i ffurfio timau golygyddol, dan ofal golygydd cyffredinol, i fod yn gyfrifol am rifynnau o’r papur yn eu tro.
Erbyn heddiw mae dros 40 o wirfoddolwyr yn cynorthwyo i gynhyrchu’r papur. Mae’r hen broses o ‘ddylunio’ drwy sticio gyda ‘cow gum’ stribedi hir o destun ar gardfwrdd wedi hen ddiflannu, gyda dylunio ar gyfrifiadur wedi cymryd ei lle. Ers 2008 mae rhai tudalennau o’r papur mewn lliw llawn. Yn achlysurol cynhyrchir atodiadau yn cynnwys lluniau o sioeau a digwyddiadau lleol.
DATBLYGIADAU
Drwy lafur caled Iolo ap Gwynn, darparwyd gwefan i gyd-redeg â’r papur print a datblygwyd gwefan newydd yn 2017. Iolo oedd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu Papur Pawb Sain ar gyfer y rhai sydd â nam ar y golwg.
Cynhaliwyd dathliadau arbennig yn 2014 i gofnodi pen-blwydd Papur Pawb yn ddeugain oed. Y gobaith yw y ceir dathliadau tebyg yn y blynyddoedd i ddod.