Tîm Papur Pawb

Mae Papur Pawb yn cyrraedd y siopau bob mis am fod cymaint o bobl lleol yn rhoi o’u hamser yn gwbl wirfoddol.

Golygu
Mae golygyddion gwahanol bob mis – dau neu dri ohonynt ar gyfer pob rhifyn – felly mae rhwng 20 a 30 o bobl yn cymryd rôl golygyddol bob blwyddyn. Mae un golygydd cyffredinol, sef Gwyn Jenkins.

Y dyddiad cau ar gyfer deunydd yw dydd Gwener cyntaf y mis, ac mae’r papur ar gael yn y siopau ar ail ddydd Gwener y mis, rhwng mis Medi a mis Mehefin.

Gohebu
Mae nifer o ohebwyr lleol yn casglu newyddion yn eu hardaloedd:

Bont-goch: Richard Huws 01970 832566
Eglwysfach/Ffwrnais: Non Griffiths 01654 781264
Maes-y-deri: Karren Roberts 078006578
Parsel Henllys:
Tal-y-bont: Myfanwy James 01970 832592 ac Aileen Williams 01970 832438
Tre’r-ddôl: Janet Evans 01654 781260 a Michelle James 01970 832028
Tre Taliesin: Siân Saunders 01970 832230

Gohebydd rhwydweithiau cymdeithasol: Ceri Morgan

Dylunio
Mae’r gwaith dylunio’n cael ei wneud yn wirfoddol yn ogystal, gyda rhyw 4 dylunydd lleol yn rhannu rhifynnau’r flwyddyn rhyngddyn nhw.

Argraffu
Caiff y papur ei argraffu o fewn y dalgylch gan wasg Y Lolfa.

Papur Sain
Mae fersiwn sain digidol o Bapur Pawb yn cael ei gynhyrchu i’r rhai sydd â nam ar y golwg. Caiff ei ddarllen a’i recordio’n lleol gan wirfoddolwyr.

Cymdeithas Papur Pawb
Sefydlwyd Cymdeithas Papur Pawb i gefnogi cyhoeddi’r papur, ac i fod yn gyfrifol amdano.

Dyma’r swyddogion ar gyfer 2016-17:

Cadeirydd: Gerwyn Jones
Is-gadeirydd: Catrin M.S. Davies
Ysgrifennydd: Rhian Evans
Trysorydd: Rebecca Williams
Golygydd Cyffredinol: Gwyn Jenkins, golygydd -at- papurpawb -dot- com
Hysbysebion: Trish Huws, dhh -at- aber -dot- ac -dot- uk
Tanysgrifiadau: Bleddyn Huws, huws -dot- henllan -at- btinternet -dot- com
Dyddiadur: Carys Briddon, carysbriddon -at- btinternet -dot- com
Plygu: Beti Jenkins, Gwenllian Parry-Jones
Dosbarthwyr: Carys Briddon, Lynn Ebenezer, Gwenllian Parry-Jones, Bob Williams